Mae ein Tîm Addysg Ieuenctid wedi datblygu deunyddiau cyffrous RHAD AC AM DDIM i athrawon yn seiliedig ar y cwricwlwm cenedlaethol. Cynigiwn adnoddau, ymweliadau ag ysgolion a deunyddiau ategol. Maent yn arbed oriau ichi ac yn eich helpu i greu prosiectau a thrafodaethau diddorol ar gyfer y dosbarth.
Mae thema cwn i'n hadnoddau rhagorol ac maent yn hyrwyddo bod yn berchenogion cyfrifol ar gwn trwy gyfrwng pynciau'r ystafell ddosbarth!
Rydym hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd cynorthwyo ysgolion Cymraeg, ac am y rheswm hwn rydym wedi darparu dau o'n prif adnoddau yn Gymraeg.
Mae Assembly a Primary Citizenship ar gael i'w llwytho i lawr AM DDIM yma.
Mae Swyddogion yr Ymddiriedolaeth Cwn (Dogs Trust) yn cynnig gweithdai rhyngweithiol AM DDIM i ddisgyblion 7-11 oed mewn ysgolion a grwpiau ieuenctid. Maent yn annog pobl ifanc i feddwl am y problemau a achosir gan berchenogion cwn sy'n anghyfrifol, fe rhan o'n nod o leihau'r nifer o gwn strae a chwn a adewir mewn rhanna allweddol o'r DU. Gellir cyflwyno'r gweithdai hyn yn Gymraeg hefyd.
Os hoffech ragor o fanylion neu i drefnu gweithdy, cysylltwch os gwelwch yn dda â Lynne Jones ar 01659 729 379 / 07843 348 419 neu e-bost:
Llwytho poster Dinasyddiaeth i lawr (PDF 3MB)
Llwytho llyfryn adnoddau Dinasyddiaeth i (PDF 2MB)
Llwytho llyfryn adnoddau Gwasanaeth Ysgol i lawr (PDF 506KB)